Rydym yn eich gwahodd i gynnig eich syniadau eich hunain ar gyfer adfywiad economaidd a datblygiad cynaliadwy canol tref Porth Tywyn
Mae Cyngor Sir Gâr wed penodi Owen Davies Consulting i weithio gyda rhanddeiliaid lleol, y Cyngor Tref a’r gymuned fusnes i gwblhau Cynllun Creu Lleoedd ar gyfer Porth Tywyn.

Mae Porth Tywyn yn rhan o’r fenter Trawsnewid Trefi, cynllun gan Lywodraeth Cymru sy’n cefnogi twf a chydnerthedd trefi ledled Sir Gâr. Bydd creu’r cynllun creu lleoedd ar gyfer y dref yn golygu y bydd Porth Tywyn yn gyson â’r trefi eraill yn y Sir sydd eisoes wedi datblygu eu cynlluniau eu hunain.

Nod y Cynllun yw helpu adnabod y bylchau a’r camau sydd angen eu cymryd yn y dyfodol agos i gefnogi adferiad economaidd a chynaliadwyedd canol y dref. Bydd Cynllun Creu Lleoedd Porth Tywyn yn golygu y bydd y dref yn gallu manteisio ar gyfleoedd am gyllid yn y dyfodol wrth iddynt ddod ar gael.
Pa fath o Gynllun?
Bydd y cynllun yn seiliedig ar egwyddorion cyd-gynllunio ac ar annog busnesau lleol, cymunedau a rhanddeiliaid i gymryd rhan yn ei ddatblygiad o’r cychwyn. Bydd y gwaith yn canolbwyntio ar weledigaeth ar y cyd ar gyfer canol y dref a gefnogir gan gyd-flaenoriaethau a chanlyniadau.


Sut allaf i gyflwyno sylwadau a chymryd rhan?
Wrth ddefnyddio’r dolenni isod gallwch adael eich sylwadau a syniadau ar gyfer Porth Tywyn i helpu adnabod yr ystyriaethau a’r cyfleoedd allweddol. Gallwch roi eich sylwadau a lluniau ar y map rhyngweithiol ac os oes arnoch eisiau derbyn gwybodaeth gyson, gallwch hefyd gofrestru am ddiweddariadau.
Dewiswch un o’r dewisiadau isod i wybod mwy ac i roi adborth
Llinell Amser
Ymchwil cefndir, adnabod yr ystyriaethau a’r syniadau allweddolTachwedd – Rhagfyr 2021
Dadansoddiad SWOT a chynigion cychwynnolRhagfyr 2021 – Ionawr 2022
Y cynllun drafft ac adborth y cyhoeddIonawr – Chwefror 2022
Cynllun terfynolDiwedd Chwefror 2022
Rhannwch y dudalen hon


Engagement platform powered by Participatr on behalf of Owen Davies Consulting

Privacy and cookie policy // Website terms of use // Accessibility statement